Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
8 Mawrth 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13262
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 8 a 10 gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 14.15
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac atebwyd cwestiwn 5 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Mynegodd y Llywydd gydymdeimlad, ar ran y Senedd, â theulu a chyfeillion y rhai a oedd yn y gwrthdrawiad angheuol yn Llaneirwg y penwythnos blaenorol, a oedd yn destun y Cwestiwn Amserol.
Dechreuodd yr eitem am 15.04
Atebwyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru): A yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru yn dilyn y ddamwain angheuol yn Llaneirwg?
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.12
Gwnaeth Natasha Asghar ddatganiad am - Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Gwnaeth Russell George ddatganiad am - Dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Y Drenewydd: I anrhydeddu 70 mlynedd o Laura Ashley.
Gwnaeth Jack Sargeant ddatganiad am - Helen Ward: Prif sgoriwr goliau Cymru sydd wedi datgan ei bod yn ymddeol o bêl-droed.
5 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Data biometrig mewn ysgolion
Dechreuodd yr eitem am 15.17
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8131 Sarah Murphy (Pen-y-Bont ar Ogwr)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod yr arfer cyffredinol o gasglu a defnyddio data biometrig mewn ysgolion ledled Cymru yn peryglu data personol a phreifatrwydd plant.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n:
a) sicrhau bod Erthygl 16 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sef hawl plentyn i breifatrwydd, yn cael ei gadarnhau o fewn Cymru;
b) sicrhau bod ysgolion a lleoliadau gofal plant yn defnyddio technolegau nad ydynt yn fiometrig ar gyfer gwasanaethau, yn hytrach na defnyddio systemau biometrig a allai beryglu diogelwch data biometrig plant;
c) sicrhau bod asesiadau risg priodol a phrosesau caffael cwmnïau technoleg mewn lleoliadau addysgol yn cael eu rhoi ar waith;
d) cydnabod y niwed posibl o'r defnydd anrheoledig o ddata biometrig;
e) cydnabod diffyg caniatâd pobl ifanc a phlant o fewn y defnydd cyfredol o ddata biometrig o fewn ysgolion.
Cyd-gyflwynwyr
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cefnogwyr
Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
14 |
1 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - Y Troad Terfynol? P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 15.52
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8216 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Y Troad Terfynol? P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2022.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2023.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
6 |
4 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yr adolygiad ffyrdd
Dechreuodd yr eitem am 16.49
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8218 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi adroddiad panel adolygu ffyrdd Llywodraeth Cymru, Dyfodol Buddsoddiad Ffyrdd yng Nghymru.
2. Yn gresynu at y diffyg ymgysylltu gan y panel adolygu ffyrdd gyda'r cyhoedd, cynrychiolwyr etholedig, awdurdodau lleol, busnesau a'r trydydd sector ac eraill yn ystod yr adolygiad.
3. Yn credu bod argymhellion y panel adolygu ffyrdd i roi'r gorau i fuddsoddi mewn prosiectau ffyrdd hanfodol sydd wedi'u cynllunio i wella diogelwch ar y ffyrdd, mynd i'r afael â thagfeydd, lleihau llygredd aer a sicrhau buddion economaidd yn methu â chyflawni'r seilwaith trafnidiaeth y mae pobl Cymru yn eu haeddu.
Dyfodol buddsoddiad ffyrdd yng Nghymru
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
39 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod yr angen am weithredu beiddgar a radical yn y sector trafnidiaeth i helpu i gyflawni allyriadau sero-net cyn 2050.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i fuddsoddi mwy brys mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac isadeiledd cerbydau trydan fel bod gan gymunedau ledled Cymru fwy o fynediad at opsiynau trafnidiaeth carbon isel neu di-garbon.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8218 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi adroddiad panel adolygu ffyrdd Llywodraeth Cymru, Dyfodol Buddsoddiad Ffyrdd yng Nghymru.
2. Yn gresynu at y diffyg ymgysylltu gan y panel adolygu ffyrdd gyda'r cyhoedd, cynrychiolwyr etholedig, awdurdodau lleol, busnesau a'r trydydd sector ac eraill yn ystod yr adolygiad.
3. Yn cydnabod yr angen am weithredu beiddgar a radical yn y sector trafnidiaeth i helpu i gyflawni allyriadau sero-net cyn 2050.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i fuddsoddi mwy brys mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac isadeiledd cerbydau trydan fel bod gan gymunedau ledled Cymru fwy o fynediad at opsiynau trafnidiaeth carbon isel neu di-garbon.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
1 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
8 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.04
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.07
NDM8217 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cenedl sy'n cydsefyll: Cymru'n sefyll gyda phobl Armenia
Daeth y cyfarfod i ben am 18.23
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 14 Mawrth 2023